Questionnaire
Eich Llais, Eich Gweledigaeth
Mae eich cyfraniadau wedi ein helpu i ddeall beth sy’n bwysig – o wreiddiau dwfn gorffennol Sir Benfro i egni a chreadigrwydd y presennol. Diolch i chi, rydym yn llunio profiad ymwelwyr sy’n mynd y tu hwnt i furiau’r castell: profiad sy’n adrodd stori balchder, hunaniaeth, gwydnwch a pherthyn.
Sgwrs Sir Gyfan a Chenedlaethol
Clywsom gan bobl ym mhob cwr o Sir Benfro – ac ymhell y tu hwnt. O atgofion plentyndod a digwyddiadau hanesyddol i obeithion ar gyfer y dyfodol, mae eich mewnwelediadau’n ein helpu i adeiladu brand a phrofiad ymwelwyr sy’n wirioneddol adlewyrchu’r sir, ei chymunedau, ei hamrywiaeth a’i hysbryd.
Beth yw gwerth enw?
Un o’r agweddau mwyaf cyffrous ar y broses hon yw dewis enw sy’n adlewyrchu maint ac uchelgais y gyrchfan newydd hon. Mae eich adborth yn llywio’r penderfyniad hwn – gan ein helpu i ddod o hyd i enw sydd wedi’i wreiddio yn y lle, yn groesawgar i bawb, ac yn barhaol.
Llunio’r Hunaniaeth
O’r strategaeth frand, byddwn yn datblygu hunaniaeth weledol newydd ar gyfer y bennod nesaf yn stori’r castell. Ni fydd hyn yn ddim ond logo, ond ffordd gyfan o gyflwyno Castell Hwlffordd i’r byd – ffordd sy’n teimlo’n feiddgar, yn gynhwysol ac yn ddiamheuol o Sir Benfro.
Beth Nesaf?
Rydym bellach yn rhoi’r cyffyrddiadau olaf i’r strategaeth frand. Cyn bo hir, byddwn yn datgelu’r enw, yr hunaniaeth weledol, ac yn rhannu cipolwg ar yr hyn sydd i ddod. Eich castell chi yw hwn, ac mae ei ddyfodol yn cael ei lunio gennych chi. Diolch am fod yn rhan ohono.
Cymerwch Ran Nawr
